Richard Wagner
Cyfansoddwr Almaenig dylanwadol oedd Wilhelm Richard Wagner (22 Mai 1813, Leipzig – 13 Chwefror 1883, Fenis). Roedd hefyd yn arweinydd a theorydd cerddorol, ac yn draethodydd, ond fe'i cofir yn bennaf am ei operâu, yn arbennig cylch ''Der Ring des Nibelungen'' (''Modrwy y Nibelung'').Priododd Christine Wilhelmine "Minna" Planer yn 1836.
Ymddengys nad oes sail i honiad George Powell bod Wagner wedi aros yn Nanteos, plasdy'r Poweliaid yng Ngheredigion, a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi ei opera ''Parsifal'' ar ôl yfed o'r "Greal Santaidd", cwpan ym meddiant y teulu. Roedd Powell yn hoff iawn o waith Wagner ond ymwelodd y cyfansoddwr â gwledydd Prydain yn 1855, tua deng mlynedd cyn iddo ysgrifennu ''Parsifal''. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7