José Enrique Rodó

Athronydd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd José Enrique Rodó (15 Gorffennaf 18711 Mai 1917). Roedd yn un o aelodau ''La Generación del 900'' ac yn rhan o fudiad ''modernismo''. Mae'n nodedig am ei lyfr ''Ariel'' (1900), gwaith modernaidd sy'n amddiffyn yn erbyn tra-arglwyddiaeth ddiwyllianniol Ewrop a'r Unol Daleithiau, a ddylanwadodd ar y meddylfryd diwylliannol a deallusol ar draws America Ladin. Ystyrir Rodó yn athronydd goreuaf gwledydd Sbaeneg yr Amerig, a'r ffigur pwysicaf yn llên Wrwgwái.

Ganwyd ym Montevideo, a threuliodd y rhan helaeth o'i oes yno. Brodor o Gatalwnia oedd ei dad. Ymddisgleiriodd José yn ei astudiaethau llên ac hanes yn yr ysgol, a mynychodd Prifysgol y Weriniaeth, er iddo hefyd addysgu ei hunan fel darllenwr brwd yn y llyfrgell.

Cyd-sefydlodd y cylchgrawn ''Revista nacional de literatura y ciencias sociales'' yn 1895. Penodwyd Rodó yn athro llenyddiaeth ym Mhrifysgol y Weriniaeth yn 1898, ac addysgodd yno nes 1902. Gwasanaethodd hefyd yn gyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái. Cynrychiolodd Partido Colorado yn Siambr y Dirprwyon yn 1902–05 ac yn 1908–14.

Cyhoeddodd ei gampwaith, yr ysgrif hir ''Ariel'', yn 1900. Ymhlith ei gasgliadau eraill o ysgrifau mae ''Motivos de Proteo'' (1908) ac ''El mirador de Próspero'' (1913).

Teithiodd Rodó i Ewrop yn 1916 fel gohebydd tramor ar gyfer papurau newydd ym Montevideo a Buenos Aires. Bu farw yn Palermo, Sisili, yn 45 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Rodó, José Enrique.
Cyhoeddwyd 1997
Cael y testun llawn
eLyfr
2
gan Rodó, José Enrique,
Cyhoeddwyd 2016
Cael y testun llawn
eLyfr
3
gan Rodo, José Enrique.
Cyhoeddwyd 1949
Llyfr
4
Llyfr
5
Cael y testun llawn
eLyfr
6
Awduron Eraill: ...Rodó, José Enrique, 1871-1917....
Digitalia Hispánica
eLyfr
7
Digitalia Hispánica
Electronig eLyfr