Marcel Proust
Nofelydd a beiriniad Ffrengig oedd Valentin Louis Georges Eugène Marcel Proust (10 Gorffennaf 1871 – 18 Tachwedd 1922). Mae'n fwyaf adnabyddus am ''À la recherche du temps perdu'' ("Chwilio am amseroedd coll"), a gyhoeddodd mewn saith rhan rhwng 1913 a 1927.Ganed Proust yn Auteuil, rhan o ddinas Paris. Roedd ei dad, Achille Adrien Proust, yn batholegydd amlwg, yn gweithio ar achosion colera a sut i'w atal. Nid oedd ei iechyd yn dda pan oedd yn blentyn, ond treuliodd flwyddyn yn y fyddin yn (1889-90). Cyhoeddodd ''Du côté de chez Swann'', rhan gyntaf ''À la recherche du temps perdu'', yn 1913.
Bu farw yn 1922, a chladdwyd ef ym Mynwent Père Lachaise ym Mharis. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20