Emilia Pardo Bazán
| dateformat = dmy}}
Awdures a ffeminist o Galisia (Sbaen heddiw) oedd Emilia Pardo Bazán (16 Medi 1851 - 12 Mai 1921) sy'n cael ei chofio fel awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, nofelydd, newyddiadurwr, athro prifysgol mewn Sbaeneg a pherchennog salon.
Mae'n adnabyddus am gyflwyno naturiaetholdeb (''naturalism'') i lenyddiaeth Sbaeneg, am ei disgrifiadau manwl o realiti, ac am gwaith arloesol o ran syniadau ffeministaidd a'i dylanwad ar lenyddiaeth ei hoes. Gwnaeth ei syniadau am hawliau menywod o fewn y byd addysg hi hefyd yn ffigwr ffeministaidd amlwg.
Ganed Emilia Pardo Bazán yn A Coruña, Galisia, Sbaen ar 16 Medi 1851 a bu farw yn Madrid. Roedd ei theulu'n uchelwrol, cyfoethog. Rhoddodd ei thad, a gredai mewn cydraddoldeb rhwng dynion a merched, yr addysg orau bosibl iddi, gan ysbrydoli ei chariad at lenyddiaeth. Ysgrifennodd ei cherddi cyntaf pan oedd yn naw oed. Daeth yn rhugl mewn Ffrangeg, Saesneg ac Almaeneg. Ni chaniatawyd iddi fynychu'r coleg gan fod menywod yn cael eu gwahardd rhag astudio gwyddoniaeth ac athroniaeth, ond daeth yn gyfarwydd â'r pynciau hynny trwy ddarllen a siarad â ffrindiau ei thad.
Yn 16 oed priododd José Antonio de Quiroga y Pérez de Deza, a oedd yn astudio'r gyfraith ar y pryd, ac roedd María de las Nieves Quiroga y Pardo Bazán a María del Carmen Quiroga y Pardo Bazán yn blant iddyn nhw.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''Los pazos de Ulloa'' (1886) a ''La cuestión palpitante'' (1884). Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20