Michel de Montaigne
Awdur o Ffrainc oedd Michel Eyquem de Montaigne (28 Chwefror 1533 – 13 Medi 1592). Ei waith enwocaf yw'r ''Essais'' ('Traethodau'), cyfres hir o fyfyrdodau, mewn tair cyfrol, sy'n ymdreiddio i natur y meddwl dynol ac yn rhoi portread cofiadwy o'r awdur ei hun dros y blynyddoedd. Daethant yn boblogaidd iawn a chyhoeddwyd dros gant o argraffiadau. Ar sawl ystyr, yr ''Essais'' oedd sail blodeuo athroniaeth yn Ffrainc yn yr 17g a arweiniodd yn ei dro at Oleuedigaeth y 18g.Cafodd ei eni yn y ''château'' de Montaigne yn Périgord, yn fab i Pierre Eyquem, maer Bordeaux, Aquitaine. Cyfaill y bardd Étienne de la Boétie oedd ef. Bu farw Boétie yn 1563 a phriododd Montaigne ei weddw yn 1565. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
gan Montaigne, Michel de, 1533-1592,
Cyhoeddwyd 2018
Awduron Eraill:
“...Montaigne, Michel de, 1533-1592....”Cyhoeddwyd 2018
Digitalia Hispánica
eLyfr