Jorge Isaacs
Bardd a nofelydd o Golombia yn yr iaith Sbaeneg oedd Jorge Isaacs (1 Ebrill 1837 – 17 Ebrill 1895) sydd yn nodedig am ei nofel ''María'' (1867).Ganed yn Cali, Talaith Cauca, yn fab i Iddew o Loegr. Etifeddodd ystadau ei dad, ond collodd ei gyfoeth yn sgil difrod Rhyfel y Cauca (1860–63). Ymsefydlodd yn Bogotá yn 1864 a chyhoeddodd gyfrol o gerddo, ''Poesías'' (1864).
Yn 1867 enillodd glod am ei nofel ramantaidd ''María'', gwaith sydd yn nodweddiadol o ''costumbrismo'' y 19g ac yn un o glasuron llên America Ladin. Bu farw yn Ibagué, Talaith Tolima, yn 58 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
gan Isaacs, Jorge, 1837-1895,
Cyhoeddwyd 2012
Awduron Eraill:
“...Isaacs, Jorge, 1837-1895....”Cyhoeddwyd 2012
Digitalia Hispánica
eLyfr
5