Felisberto Hernández

Llenor straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Felisberto Hernández (20 Hydref 190213 Ionawr 1964) sy'n nodedig am ei ffuglen ffantasi ryfedd, sy'n rhagflaenu realaeth hudol, ac sy'n cynnwys cymeriadau gorffwyll ac obsesiynol. Roedd hefyd yn bianydd ac mae themâu cerddorol yn bresennol mewn nifer o'i straeon. Gan fod ei enw cyntaf yn fwy cyffredin na'i gyfenw, fe'i gelwir yn aml yn Felisberto.

Ganwyd Felisberto ym Montevideo i deulu tlawd. Dysgodd sut i ganu'r piano yn ei arddegau a pherfformiodd mewn sinemâu yn ystod oes y ffilmiau mud. Yn ddiweddarach yn ei oes cafodd swydd lywodraethol yn gwrando ar ganeuon tango ar y radio, i wirio'r broses o gasglu ffïoedd hawlfraint.

Yng nghyfnod boreuol ei yrfa lenyddol, o 1925 i 1931, cyhoeddodd Felisberto bedair cyfrol o straeon sy'n datblygu'r themâu a'r technegau sy'n nodweddiadol o'i waith. Nodweddir ei straeon cynnar, er enghraifft ''Libro sin tapas'' (1929) a ''La envenenada'' (1931), gan ddigrifwch, craffter yr awdur, a brwdfrydedd yr elfennau ffantasi. Ni chafodd fawr o lwyddiant nes y straeon hir ''Por los tiempos de Clemente Colling'' (1942) a ''Nadie encendía las lámparas'' (1947). Yn ei gasgliad ''La casa inundada'' (1960) gwelir uchafbwynt ei ddull adroddiant deuol, sy'n dibynnu ar gof a ffantasi. Yn ôl nifer o feirniaid, ei gampwaith ydy'r stori ''Las hortensias'', am ddyn sy'n gosod doliau mewn ystumiau pornograffig.

Denodd Felisberto sylw awduron eraill yn hytrach na'r cyhoedd darllengar, ac ymhlith ei edmygwyr mae Jorge Luis Borges, Julio Cortázar, ac Italo Calvino. Bu farw ym Montevideo yn 61 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Hernández, Felisberto.
Cyhoeddwyd 2017
Cael y testun llawn
eLyfr