José Hernández

Bardd, newyddiadurwr, milwr, a gwleidydd Archentaidd oedd José Hernández (10 Tachwedd 183421 Hydref 1886). Ei gampwaith ydy ''Martín Fierro'', enghraifft nodweddiadol o lenyddiaeth y ''gaucho'' a ystyrir yn arwrgerdd genedlaethol yr Archentwyr ac yn un o glasuron llên yr Ariannin.

Ganwyd ar fferm gwartheg ger San Martín yn nhalaith Buenos Aires. Aeth i'r pampas yn ei arddegau, ac yno dysgodd am fywyd a diwylliant y ''gauchos''. Daeth yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth cefn gwlad, ac ymunodd â'r fyddin yn 19 oed. Ar ôl rhyw pum mlynedd yn rhan o'r brwydrau rhwng y llywodraeth a'r taleithiau, ymddeolodd o'r fyddin ac ymfudodd i Entre Ríos yn 1858. Yno, ymunodd ag ymgyrchoedd chwyldroadol yn erbyn y llywodraeth ganolog, a chafodd hefyd ei brofiad cyntaf o newyddiaduraeth. Ailymunodd â'r fyddin yn 1859 a bu'n ymladd ym mrwydrau Cepeda (1859) a Pavón (1861).

Ymsefydlodd yn Buenos Aires yn 1863, a gweithiodd i'r papur newydd ''El Argentino''. Yn 1869 sefydlodd ''El Río de la Plata'', ond cafodd y papur newydd hwnnw ei wahardd gan yr Arlywydd Domingo Sarmiento, a oedd hefyd yn llenor ac yn wrthwynebydd i Hernández. Brwydrodd Hernández yng ngwrthryfel Ricardo López Jordán yn erbyn Sarmiento, ond bu'n rhaid iddo ffoi i Frasil yn 1871 yn sgil methiant y gwrthryfel hwnnw.

Dychwelodd i Buenos Aires a chyhoeddodd ''El gaucho Martín Fierro'' yn 1872 a'r dilyniant ''La vuelta de Martín Fierro'' yn 1879. Y rheiny yw'r unig farddoniaeth a gyhoeddwyd ganddo. Ysgrifennodd sawl gwaith gwleidyddol ac erthyglau gan gynnwys ''Instrucción del estanciero'' (1881). Fe'i etholwyd yn gynrychiolydd ac yn seneddwr, a chynorthwyodd wrth sefydlu dinas La Plata. Bu farw yn ardal Belgrano, Buenos Aires, yn 51 oed o drawiad ar y galon. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 1975
Llyfr
2
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 1982
Llyfr
3
gan Hernández, José.
Cyhoeddwyd 1969
Llyfr
4
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 1942
Llyfr
5
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 1948
Llyfr
6
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 1947
Llyfr
7
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 1963
Llyfr
8
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 1967
Llyfr
9
gan Hernández, José
Cyhoeddwyd 2000
Llyfr
11
gan Hernández, José Alberto.
Cyhoeddwyd 2009
Cael y testun llawn
eLyfr
16
Cael y testun llawn
eLyfr