Sextus Julius Frontinus

Roedd Sextus Julius Frontinus neu Julius Frontinus (c. 40-103) yn gadfridog Rhufeinig ac awdur yn yr iaith Ladin. Fel llywodraethwr Prydain bu'n gyfrifol am orchfygu llwyth y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru.

Yn y flwyddyn 70 roedd yn braetor, ac yn 75 penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain i ddilyn Quintus Petillius Cerialis. Bu'n ymladd yn erbyn y Silwriaid, a llwyddodd i orchfygu'r llwyth hwnnw, oedd wedi gwrthwynebu Rhufain am bron 30 mlynedd. Sefydlodd ganolfan newydd yng Nghaerllion (''Isca Silurum'') i'r ail leng, Legio II ''Augusta'', a rhwydwaith o gaerau llai. Dilynwyd ef gan Gnaeus Julius Agricola yn 78.

Yn 95 penodwyd ef i'r swydd o ''curator aquarum'' yn Rhufain, yn gyfrifol am gyflenwad dŵr i'r ddinas. Ysgrifennodd lyfr ''De aquis urbis Romae'', yn rhoi disgrifiad o gyflenwad dŵr Rhufain, ei hanes a'i agweddau cyfreithiol. Un arall o'i weithiau oedd ''De re militari'', llyfr ar faterion milwrol, nad yw wedi goroesi. Mae ei ''Strategematicon libri iii'' yn gasgliad o esiamplau o strategaeth filwrol o hanes Groeg a Rhufain, at ddefnydd swyddogion y fyddin. Credir iddo hefyd ysgrifennu ar fesur tir. Darparwyd gan Wikipedia