John Fletcher
Dramodydd o Sais oedd John Fletcher (Rhagfyr 1579 – 29 Awst 1625) a flodeuai yn ystod Oes Iago. Mae'n nodedig am ei bartneriaeth lenyddol â Francis Beaumont a gynhyrchodd ryw ddeg o gomedïau a thrasiedïau yn y cyfnod 1607–13. Priodolir hefyd iddo gydweithio â William Shakespeare ar y ddrama hanes ''Henry VIII'', y drasigomedi ''The Two Noble Kinsmen'', a'r gwaith diflanedig ''Cardenio''. Darparwyd gan Wikipedia
1
2