Frantz Fanon

Seiciatrydd, athronydd, chwyldroadwr, a llenor o Martinique oedd Frantz Omar Fanon (20 Gorffennaf 19256 Rhagfyr 1961). Roedd yn ddylanwadol mewn astudiaethau ôl-drefedigaethol. Ysgrifennodd y llyfrau ''Peau noire, masques blancs'' (1952) a Les ''Damnés de la terre'' (1961).

Ganwyd yn Fort-de-France, prifddinas Martinique, a mynychodd ysgolion ar yr ynys honno ac yn Ffrainc. Gwasanaethodd ym Myddin Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel astudiodd meddygaeth a seiciatreg ym Mhrifysgol Lyon. Roedd yn bennaeth adran seiciatreg Ysbyty Blida-Joinville, Algeria, o 1953 hyd 1956. Ymunodd â'r mudiad gwrth-drefedigaethol yn Algeria ym 1954 ac ym 1956 daeth yn olygydd y papur newydd ''El Moudjahid'' a gyhoeddwyd yn Nhiwnis. Penodwyd yn llysgennad Algeria i Ghana ym 1960 gan y Llywodraeth Dros Dro. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Fanon, Frantz, 1925-1961,
Cyhoeddwyd 2009
Awduron Eraill: ...Fanon, Frantz, 1925-1961....
Digitalia Hispánica
eLyfr