Johannes Brahms

Roedd Johannes Brahms (7 Mai 1833 - 3 Ebrill 1897) yn gyfansoddwr, pianydd ac arweinydd cerddoriath Almaenaidd yn y cyfnod Rhamantaidd. Fe'i ganed yn Hamburg i deulu Lutheraidd, a threuliodd lawer o'i fywyd proffesiynol yn Fienna. Weithiau caiff ei grwpio gyda Johann Sebastian Bach a Ludwig van Beethoven fel un o "Dri B" cerddoriaeth, sylw a wnaed yn wreiddiol gan yr arweinydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg Hans von Bülow .

Cyfansoddodd Brahms gweithiau ar gyfer y gerddorfa symffoni, yr ensemble siambr, y piano, yr organ, y llais a'r corws. Yn bianydd meistrolgar, perfformiwyd nifer o'i weithiau am y tro cyntaf ganddo ef ei hun. Gweithiodd gyda pherfformwyr blaenllaw ei gyfnod, gan gynnwys y pianydd Clara Schumann a'r feiolinydd Joseph Joachim (roedd y tri yn ffrindiau agos). Mae llawer o'i weithiau wedi dod yn rhan o brif arlwy'r repertoire cyngerdd modern.

Roedd Brahms yn cael ei ystyried yn draddodiadwr ac yn arloeswr, gan ei gyfoeswyr a chan awduron diweddarach. Mae ei gerddoriaeth wedi'i wreiddio yn strwythurau a thechnegau cyfansoddiadol y meistri Clasurol. Er bod rhai o'i gyfoeswyr o'r farn bod ei gerddoriaeth yn rhy academaidd, roedd ffigurau dilynol megis Arnold Schoenberg ac Edward Elgar yn edmygu ei gyfraniad a'i grefftwaith. Roedd natur ddiwyd, hynod adeiladol gweithiau Brahms yn fan cychwyn ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth o gyfansoddwyr. Mae motiffau rhamantus dwfn wedi'u hymgorffori yn y strwythurau hynny. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Brahms, Johannes
Cyhoeddwyd 2009
Sain Glôb Llyfr
2
gan Brahms, Johannes
Cyhoeddwyd 1926
Sgôr Cerddorol Llyfr
3
gan Brahms, Johannes, 1833-1897
Cyhoeddwyd 1928
Llyfr
4
gan Brahms, Johannes, 1833-1897
Cyhoeddwyd 1949
Llyfr