Ludwig van Beethoven
Cyfansoddwr Almaenig o'r cyfnod clasurol oedd Ludwig van Beethoven (17 Rhagfyr 1770 – 26 Mawrth 1827), er bod ei gyfansoddiadau yn cael eu hystyried fel enghreifftiau cyntaf y cyfnod Rhamantaidd. Er iddo golli ei glyw yn hanner olaf ei oes, parhaodd i gyfansoddi darnau cyffrous, ac fe'i hystyrir yn un o'r cyfansoddwyr gorau erioed. Ymysg ei weithiau mwyaf enwog mae ei bumed a'i nawfed symffoni, y darn piano "Für Elise", y sonata "Pathétique" a'r sonata "Lloergan". Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6