Otto Bauer

Gwleidydd ac athronydd Marcsaidd Awstriaidd oedd Otto Bauer (5 Medi 18814 Gorffennaf 1938) a fu'n brif ddamcaniaethwr Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Awstria (SPÖ). Gwasanaethodd yn Weinidog Tramor Awstria yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig cefnog. Bauer oedd un o sefydlwyr y mudiad addysg sosialaidd Die Zukunft ("Y Dyfodol"), a chyfrannodd at sawl cyfnodolyn adain-chwith. Fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y blaid seneddol ym 1904. Amlinellai ei syniadaeth wleidyddol yn y gyfrol ''Die Nationalitätenfrage und die Sozialdemokratie'' (1907), sydd yn trafod problemau cenhedloedd Canolbarth Ewrop yn nhermau brwydr y dosbarthiadau. Fe'i ystyrir yn un o brif feddylwyr y mudiad Awstro-Farcsiaeth.

Ymunodd â'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei ddal yn garcharor rhyfel gan luoedd Rwsia. Dychwelodd i Awstria ym 1917 a chymerodd awenau ymblaid adain-chwith yr SPÖ. Fe'i penodwyd yn Weinidog Tramor Awstria ar 21 Tachwedd 1918, yn llywodraeth y Canghellor Karl Renner. Ar 2 Mawrth 1919, arwyddodd Bauer cudd-gytundeb i uno Awstria â'r Almaen, ond gwrthodwyd y cynllun iredentaidd hynny gan y Cynghreiriaid. Ymddiswyddodd o'r llywodraeth ar 26 Gorffennaf 1919, ond parhaodd yn ffigur blaenllaw yn ei blaid. Gwasanaethodd yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria o 1929 i 1934. Yn sgil methiant y gwrthryfel sosialaidd yn Fienna ym 1934, aeth Bauer yn alltud yn Tsiecoslofacia. Symudodd yn ddiweddarach i Ffrainc, a bu farw ym Mharis yn 56 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Bauer, Otto, 1881-1938,
Cyhoeddwyd 2020
Digitalia Hispánica
eLyfr