Azorín
Nofelydd, ysgrifwr, a beirniad llenyddol Sbaenaidd oedd José Martínez Ruiz (8 Mehefin 1873 – 2 Mawrth 1967) a adwaenir gan y ffugenw Azorín. Efe oedd un o aelodau blaenllaw y mudiad llenyddol ''La Generación del 98''.Ganed ym Monóvar, Valencia, yng Ngweriniaeth Gyntaf Sbaen. Astudiodd y gyfraith yn Valencia, Granada, a Salamanca. Symudodd i Fadrid i fod yn newyddiadurwr, ond roedd yn anodd iddo gael gwaith oherwydd ei agwedd ddi-flewyn-ar-dafod.
Ysgrifennodd driawd o nofelau traethodol – ''La voluntad'' (1902), ''Antonio Azorín'' (1903), ''Las confesiones de un pequeño filósofo'' (1904) – a oedd yn hwb i ''La Generación del 98''. Mynegir gwladgarwch diwylliannol Azorín yn ei gyfrol ''El alma castellana'' (1900) a'i gasgliadau o ysgrifau ''La ruta de Don Quijote'' (1905) ac ''Una hora de España 1560–1590'' (1924). Ystyrir Azorín yn feirniad gwychaf Sbaen yn nechrau'r 20g, a dethlir clasuron llenyddiaeth Sbaeneg yn ogystal â mudiadau newydd yn ei weithiau megis ''Al margen de los clásicos'' (1915). Azorín oedd golygydd y cylchgrawn ''Revista de Occidente'' o 1923 i 1936.
Treuliodd Azorín gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen ym Mharis yn ysgrifennu i'r papur newydd Archentaidd ''La Nación''. Dychwelodd i Fadrid ym 1949, a bu farw yno yn 93 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7
8
gan Azorín, 1873-1967
Cyhoeddwyd 1998
Awduron Eraill:
“...Azorín, 1873-1967...”Cyhoeddwyd 1998
Digitalia Hispánica
Electronig
eLyfr
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20