Olga Tokarczuk

Nofelydd, awdur straeon byrion, a bardd o Bwyles yw Olga Nawoja Tokarczuk (ganwyd 29 Ionawr 1962) sy'n un o lenorion mwyaf llwyddiannus y wlad. Yn 2018, enillodd y Wobr Ryngwladol Man Booker am ei nofel ''Bieguni''. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel 2018 am ei "dychymyg traethiadol sydd, gydag angerdd hollgynhwysfawr, yn cynrychioli croesi ffiniau fel ffurf ar fyw". Cyhoeddwyd y wobr honno yn 2019, wedi i sgandal orfodi Academi Sweden i ohirio'r wobr yn 2018.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1993. Mae ei ffuglen hi yn aml yn cyfuno pynciau hanesyddol â themâu cyfriniol. Cyd-ysgrifennodd Tokarczuk, gyda'r gyfarwyddwraig Agnieszka Holland, y sgript ar gyfer y ffilm ''Potok'' (2017), sy'n addasiad o'i nofel ''Prowadź swój pług przez kości umarłych'' (2009). Mae Tokarczuk hefyd yn ymgyrchydd gwleidyddol amlwg ac yn gwrthwynebu llywodraeth adain-dde Gwlad Pwyl. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Tokarczuk, Olga, 1962-
Cyhoeddwyd 2016
Awduron Eraill: ...Tokarczuk, Olga, 1962-...
Digitalia Hispánica
eLyfr